Lawnsiodd cwmni Cwrw Llŷn o Lwyndyrys, ger Pwllheli eu cwrw cyntaf 'Brenin Enlli'. Cyflenwir y cwmni eisioes 4 o'r tafarndai lleol, gyda 10 tafarn arall ar eu rhestr aros. Yn ogystal â hyn, yn ddiweddar cawsant feddiant ar adeilad yn Nefyn fydd yn galluogi'r cwmni i ehangu er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol. Mae gan y cwmni 12 o gyfarwyddwyr sydd â phrofiad sylweddol mewn meysydd eraill ond wedi uno i lenwi'r twll yn y farchnad. Mae gan y cwmni hefyd gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu canolfan dreftadaeth fydd yn codi ymwybyddiaeth am hanes a thraddodiad bragu cwrw ym Mhen Llŷn; mae tystiolaeth yn dyddio yn ôl i'r oes efydd wedi ei ddarganfod ym Mhorth Niwgwl. Mae'r criw hefyd yn bwriadu creu marchnad i ffermwyr lleol dyfu grawn bragwyr ar sail fasnachol, fydd yn y pen draw yn creu cynnyrch wirioneddol leol a lleihau lefel y milltiroedd bwyd yn y broses gynhyrchu.
![](https://s2.save4k.ru/pic/fCrGZ6f3_KA/maxresdefault.jpg)