Cafwyd ceisiadau uchel iawn eu safon eleni gan 26 o fusnesau oedd a'i bryd ar gipio'r wobr. Enillwyr y brif wobr oedd Carwyn Adams a Will Kerr o Foncath yng Ngogledd Sir Benfro a'u partneriaeth Saloni, sy'n cynhyrchu salami Cymreig a selsig chorizo. Yn dilyn gwaith ymchwil helaeth gan gynnwys taith i'r Eidal i ddysgu mwy am eu maes, treuliwyd 2 flynedd yn perffeithio'r cynnyrch, cyn ei lawnsio yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni. Cafwyd adborth eithriadol o bositif gan y cyhoedd gan werthu allan o'r cynnyrch cyn diwedd y sioe.
Mae Will Kerr yn magu brîd prin o foch Cymreig, sy'n bwydo ar faidd, sy'n digwydd bod yn gynnyrch gwastraff o broses gynhyrchu Caws Cenarth, ble mae Carwyn Adams yn rheolwr gyfarwyddwr. Maent wedi llwyddo i ddatblygu ffordd unigryw o ychwanegu gwerth i'r cig moch yn ogystal â chadw lefel milltiroedd bwyd y cynnyrch yn isel. Roedd y beirniaid wedi eu plesio'n fawr gan botensial y cynnyrch yn y farchnad.
![](https://i.ytimg.com/vi/gJ2Q5YzIoF0/maxresdefault.jpg)