Oddi ar albwm Clymhalio, 1991
Tra’n gorwedd ar y palmwydd
Wyt ti’n meddwl am wynebau cyfarwydd?
Oedd yn dy drin gyda charedigrwydd
Hyd nes i ti dderbyn yr arwydd
Fod na fwy na hyn i fywyd
Ac y dylet ti gymeryd trywydd
I ffwrdd o draddodiadau
Nodweddiadol dy gyn dadau
A gwelaist di
Y ffigyrau du
Yn galw arno ti
A dy ddenu di
Yn galw arno ti
A dy dwyllo di
Gall bywyd gael ei glymu
Yn gaeth wrth dyfu fyny
Gan achosi poenau meddwl
A rhoi dyddiau braf dan gwmwl
Sy’n cysgodi gweledigaeth
Fel ymennydd llawn coedwigaeth
A dyna pryd ddechreuaist lifio
Pan sylweddolaist dy fod yn prifio
A gwelaist ti’r ffigyrau du
Yn galw arno ti, galw arno ti
Ещё видео!